Mae’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yn fuddsoddiad allweddol ar gyfer addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Mae’n cynnig cefnogaeth o safon a chyfleoedd cyffrous.

Mae’r cynllun yn nodi’r ffocws a’r blaenoriaethau canlynol ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth ledled Cymru ac mae wrth wraidd ein gweledigaeth yng Nghaerdydd a’r Fro.

Dysgu Proffesiynol, gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Cerddoriaeth ar gyfer dysgu gydol oes, iechyd a lles.

Cerddoriaeth yn yr Ysgol

Profiadau cyntaf

Llwybrau Cerddoriaeth

Hyfforddiant cerdd

Profiadau Cerddoriaeth Fyw

Cerddoriaeth y tu allan i’r ysgol

Creu Cerddoriaeth gydag eraill – gweithgareddau ac ensembles

Creu Cerddoriaeth gydag eraill

Diwydiannau creadigol

Beth yw’r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol?

Y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol sy’n gyfrifol am weithredu’r Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael addysg a chyfleoedd cerddorol, beth bynnag fo’u sefyllfa ariannol. 

Rhwng 2022 a 2025, bydd y gwasanaethau cerdd lleol a sefydliadau cerddorol cenedlaethol a chymunedol yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc yn eu hardal, gan agor llwybrau cerddorol amrywiol a buddiol i bawb.

Ar gyfer pwy mae’r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol?

Mae’r gwasanaeth yn dod â phawb at ei gilydd, i sicrhau bod llwybr cerddorol unigolyn mor hawdd â phosibl.  Os ydych chi eisiau canu, cyfansoddi, dysgu am gerddoriaeth ddigidol, chwarae mewn cerddorfa neu fand neu anelu am brofiad neu hyd yn oed yrfa yn y diwydiant – gallwn eich rhoi ar ben ffordd.  Bydd cyfleoedd i brofi cerddoriaeth fyw o bob math, ac mae gennym lyfrgell o offerynnau ac adnoddau ar gael.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cefnogi ac yn ysbrydoli athrawon drwy gynnig sesiynau Profiadau Cyntaf, cefnogi gwaith dosbarth, hyfforddiant a llu o brofiadau cerddorol a chreadigol newydd.

Mae Charanga Cymru yn llwyfan digidol newydd. Fe’i crëwyd i helpu ysgolion i gynnig gwers gerddoriaeth yn y dosbarth, beth bynnag yw profiad cerddorol yr athrawon. Bydd hynny’n rhoi’r sgiliau a’r hyder i athrawon helpu plant a phobl ifanc i chwarae, canu, cymryd rhan a chreu cerddoriaeth yn ein hysgolion a’n lleoliadau, ac yn ein cymunedau.