Rydym yn cynnig pecynnau addysg cerddoriaeth digidol i ysgolion.

Cwrs iPad a GarageBand

Rydym yn cynnig cyrsiau iPad a GarageBand i ddosbarth cyfan ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd neu uwchradd. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddysgu disgyblion sut i greu, cyfansoddi, recordio a chynhyrchu cerddoriaeth ar iPad gan ddefnyddio GarageBand.

Gallwn deilwra’r cwrs i blant ysgol gynradd fel cyflwyniad i greu cerddoriaeth ddigidol.

Gallwn hefyd deilwra’r cwrs fel cwrs cymorth cynhyrchu cerddoriaeth a chyfansoddi mwy manwl ar gyfer y rhai mewn ysgolion uwchradd, a disgyblion TGAU a Safon Uwch.

Gallwch archebu’r cwrs fel:

  • Gweithdy diwrnod llawn,
  • Gweithdy hanner diwrnod,
  • Cwrs 5 wythnos i ddechreuwyr (1 awr yr wythnos), neu
  • Yn barhaus yn y tymor.

Mae’r cwrs hwn wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith staff a disgyblion.

Gwyliwch y fideo byr ar ein cwrs iPad a GarageBand.

Costau

Hyd y cwrsCost
Gweithdy diwrnod llawn (5 awr)£210
Gweithdy hanner diwrnod (2.5 awr)£120
Cwrs wythnosol (1 awr yr wythnos)£42 yr awr

Cymorth TGAU, BTEC, a Safon Uwch

Rydym yn deall nad oes gan bob ysgol yr offer na’r adnoddau i recordio a ffilmio gwaith cwrs cyfansoddi a pherfformio disgyblion.

Gallwch archebu ein stiwdio amlgyfrwng yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter at y diben hwn.

Gallwn hefyd ymweld â’ch ysgol gan fod gennym nifer o athrawon technoleg cerddoriaeth arbenigol a all ddod i’ch helpu chi a’ch disgyblion yn yr ystafell ddosbarth.

Mae hyn yn costio £42 yr awr.

Hyfforddiant Staff Cerddoriaeth Ddigidol a TG

Rydym yn cynnig hyfforddiant cerddorol digidol a TG pwrpasol i athrawon a staff.

Gall hyn fod ar lefel ragarweiniol gan ddefnyddio iPad ac apiau cynhyrchu cerddoriaeth a fideo sylfaenol fel GarageBand ac iMovies. Gallai hyn hefyd fod yn edrych yn fanylach ar dechnoleg, recordio a chynhyrchu cerddoriaeth.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion hyfforddi staff.

Cysylltu â ni

E-bost: addysgcerddoriaethcf@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 029 2087 2741