Mae gennym stoc o offerynnau sydd ar gael i’w benthyg neu eu llogi. Mae argaeledd yn dibynnu ar y dewis o offeryn ac argaeledd. Rhoddir blaenoriaeth i blant o deuluoedd incwm isel (a oedd gynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim) a’u dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Os yw athro cerdd neu ysgol eich plentyn wedi eich cynghori i gysylltu â ni, llenwch y ffurflen i ymuno â’r rhestr aros.

Gitârs a thelynau

Byddwch yn ymwybodol bod ein stoc o gitarau a thelynau i’w benthyg yn gyfyngedig iawn.

Pianos ac allweddellau

Mae gennym stoc fach o allweddellau ar gael, ond gall fod yn fwy darbodus prynu eich un eich hun gan eu bod yn eithaf rhesymol o ran pris ac yn aml ar gael mewn siopau ail law. Nid ydym yn gallu benthyg pianos. Gallwch ddysgu mwy am brynu eich offeryn eich hun drwy ein Cynllun Prynu Offeryn â Chymorth.