Beth fydd fy mhlentyn yn ei dderbyn?

Rydym am i bob plentyn gael cyfle i ganu neu ddysgu offeryn cerddorol. Mae’r cynllun ‘Tuition Direct’ yn dysgu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar blant i ddatblygu eu potensial cerddorol.

  • Gwers wythnosol yn yr ysgol ar eu pen eu hunain neu wedi’i rhannu gydag uchafswm o dri disgybl arall (uchafswm o 34 gwers dros y flwyddyn ysgol).
  • Mynediad i wneud cais i fenthyg offeryn cerddorol.
  • Cyfle i ddod yn aelod o Ensembles a gweithgareddau CF Music
  • Cyfle i gofrestru ar gyfer arholiadau cerddoriaeth wedi’u graddio ABRSM, Trinity neu Rockschool.
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn cyfleoedd perfformio a chyngherddau.

Mathau o wersi

Mae’r holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan ein hathrawon profiadol sy’n gerddorion medrus iawn. Mae gan ein hathrawon wiriad gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ac maent yn aelodau o Gyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen i chi gytuno i’n Telerau ac Amodau cyn y gallwn ddarparu hyfforddiant.

Camau Cerdd

Mae Camau Cerdd yn wersi grŵp mawr, wedi’u trefnu gan ysgolion, ond yn cael eu gweinyddu trwy ein cynllun Tuition Direct Dyma barhad o’n cynnig ‘Profiadau Cyntaf’, dosbarth cyfan fel rhan o Gynllun Cenedlaethol Addysg Cerddoriaeth Cymru.

Gallwn ddysgu hyd at 16 disgybl mewn sesiwn 1 awr, neu 8 disgybl mewn 30 munud. Bydd 10 gwers y tymor.

Bydd y gwersi yn costio £26 y tymor (telir ymlaen llaw). Os yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim, mae’r gwersi yn rhad ac am ddim. Mae’r gwersi hyn ar gael mewn ysgolion sy’n cymryd rhan yn unig. Cysylltwch â ni i weld a oes rhai ar gael.

Gwersi grŵp

Gall hyd at 4 disgybl rannu gwers grŵp. Bydd yn lleiafswm o 20 munud ac uchafswm o 30, yn dibynnu ar nifer y disgyblion.

Bydd y gwersi yn costio £63 y tymor (telir ymlaen llaw) neu £18.90 y mis dros 10 mis.

Gwersi unigol

Ffioedd ar gyfer gwersi unigol
Hyd y wersPris y tymor
(i’w dalu ymlaen llaw)
Pris y mis
(dros 10 mis)
15 munud£126£37.80
20 munud£168£50.40
30 munud£252£75.60

Cymorth i deuluoedd incwm isel

Os ydych yn profi caledi ariannol ac mae angen cymorth ariannol ychwanegol ar eich plentyn, cysylltwch â ni a gallwn eich cyfeirio at fwrsariaethau neu wobrau pellach ar gyfer cerddorion ifanc mwy abl a thalentog.