A oes angen help arnoch i brynu offeryn cerdd ar gyfer eich plentyn?

Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y Cynllun Prynu Offeryn â Chymorth.

Mae’r Cynllun Prynu Offerynnau â Chymorth yn cynnig gostyngiad o’r TAW i rieni ar brynu offeryn cerdd i’w plant.

Efallai y byddwch yn gymwys os yw’ch plentyn yn derbyn:

  • tiwtoriaeth neu weithgareddau ensemble gyda CF Music Education, neu
  • tiwtoriaeth mewn ysgol neu leoliad i gefnogi eu TGAU, BTEC neu Safon Uwch mewn Cerddoriaeth.

Cysylltwch â ni a dewiswch ‘Prynu Offeryn’ fel y pwnc.

Unwaith y byddwn wedi cadarnhau eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, byddwn yn cysylltu â chyflenwyr ac yn sicrhau’r pris mwyaf cystadleuol.

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich taliad, gallwch gasglu’r offeryn o Ganolfan Celfyddydau’r Chapter.

.