Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan, ein porth rhieni (Paritor – Xperios) neu ein gwasanaeth i gymryd rhan yn ein gweithgareddau.

Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn rhan o Gyngor Caerdydd, y Rheolydd Data at ddibenion casglu data. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn casglu ac yn prosesu’r data personol isod, mae GDPR y DU yn disgrifio’r prosesu sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni contract y mae gwrthrych y data wedi ymrwymo iddo neu er mwyn cymryd camau ar gais gwrthrych y data cyn ymrwymo i gontract:

Gwybodaeth adnabod bersonol
Rhieni a gofalwyr – Enw / Cyfeiriad (cartref neu fusnes) / Cod Post / Rhif Ffôn / Cyfeiriad E-bost / Dyddiad Geni
Myfyrwyr – Ysgol / Data Anabledd / Tarddiad Ethnig / Hiliol / Cenedligrwydd / Cofnodion arholiadau allanol / cofnodion cynnydd disgyblion / cysylltiadau meddygol brys / alergeddau
Staff – Enw / Cyfeiriad (cartref neu fusnes) / Cod Post / Rhyw / Rhif Ffôn / Cyfeiriad E-bost / Dyddiad Geni / Statws Priodasol / Cenedligrwydd / Rhif Yswiriant Gwladol / Manylion Ariannol Banc / cofnodion pensiwn / Cofnodion gwasanaeth datgelu a gwahardd
Caiff data categori arbennig ei gasglu dan Erthygl 9 am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd neu am resymau sy’n ymwneud â chyfle neu driniaeth gyfartal. (Anabledd, Tarddiad Ethnig / Hiliol, Cenedligrwydd)
Data sensitif (Amddiffyn Plant, Diogelu Oedolion, Plant sy’n Derbyn Gofal, Prydau Ysgol am Ddim, iechyd meddwl a chorfforol, aelodaeth undeb llafur (staff), tarddiad ethnig / hiliol, rhyw)
Manylion meddygol disgyblion (alergeddau, manylion meddygon, gweithdrefn cysylltiadau brys)
Cesglir hyn er mwyn diogelu disgyblion, bilio, cynllunio digwyddiadau a gweithgareddau, adrodd ystadegau, creu amserlenni tiwtoriaid ac ysgolion)
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych yn rhoi’r rhan fwyaf o’r data rydym yn ei gasglu i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn uniongyrchol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:
Cofrestru ar-lein neu archebu unrhyw un o’n cynhyrchion neu ein gwasanaethau.
Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.
Efallai y bydd Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o’r ffynonellau canlynol:
Cyngor Caerdydd a Chyngor y Fro i wirio statws prydau ysgol am ddim, statws anghenion dysgu ychwanegol i wirio cymorth ariannol a chefnogi anghenion disgyblion unigol.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn casglu eich data fel y gallwn:
Brosesu eich archeb a rheoli eich cyfrif.
E-bostio atoch gynigion arbennig ar gynhyrchion a gwasanaethau eraill rydym yn credu y byddech o bosib yn eu hoffi.
Sicrhau diogelwch a lles eich plentyn/plant mewn digwyddiadau a gweithgareddau.
I gyflawni ein contract, mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn defnyddio Paritor i greu a rheoli eich cyfrif porth rhieni, a gwneir taliadau drwy Parent Pay a Pay360.
Mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio’r trydydd parti Paritor i greu a rheoli eich cyfrif. Drwy gofrestru, rydych yn deall y bydd Paritor yn prosesu eich data personol. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Paritor yn prosesu eich data ewch i: Paritor
Mae Cyngor Caerdydd yn prosesu eich taliadau drwy’r trydydd parti Pay360. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Pay360 yn prosesu eich data, ewch i: Pay360
Gall Cyngor Caerdydd brosesu eich taliadau hefyd drwy’r trydydd parti Parent Pay. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Parent Pay yn prosesu eich data, ewch i: Parent Pay

Sut rydym yn storio eich data?
Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn storio eich data yn ddiogel drwy Microsoft Azure Services. Mae data cwsmeriaid, gan gynnwys copïau wrth gefn, yn cael ei gadw yng Nghanolfan Data De’r DU, sydd wedi’i lleoli yn Llundain. Mae gan Microsoft achrediad ISO 27001 ac mae’n rhan o gynllun G-Cloud Llywodraeth Prydain. Mae’r data wedi’i amgryptio bob amser.
Bydd Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn cadw eich data personol os cytunir tra bydd y gwersi neu’r gweithgareddau yn cael eu cyflwyno. Ar ôl i unrhyw diwtora neu weithgareddau ddod i ben, bydd y cyfrif yn cael ei archifo. Ar ôl cyfnod segur o 3 blynedd, bydd yr holl ddata sy’n ymwneud â’ch cyfrif yn cael ei wneud yn ddienw.
Marchnata
Hoffai Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro anfon gwybodaeth atoch am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, yn ogystal â rhai ein cwmnïau partner rydym yn credu y byddech o bosib yn eu hoffi.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Prifysgol De Cymru
Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru
Os ydych wedi cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata, gallwch bob amser optio allan yn ddiweddarach.
Mae gennych hawl ar unrhyw adeg i atal Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro rhag cysylltu â chi at ddibenion marchnata. Gallwch wneud hyn drwy glicio’r botwm i dynnu caniatâd marchnata yn ôl o fewn y porth rhieni neu drwy anfon e-bost atom yn AddysgGerddCF@caerdydd.gov.uk
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro am gopïau o’ch data personol.
Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro drosglwyddo’r data rydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk
Neu ysgrifennwch atom: Llywodraethu Gwybodaeth a Rheoli Risg
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae’n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig drwy gwcis neu dechnoleg debyg.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org.
Sut rydym yn defnyddio cwcis?
Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn defnyddio cwcis mewn amrywiaeth o ffyrdd i wella’ch profiad ar ein gwefan, gan gynnwys:
Eich cadw wedi’ch mewngofnodi
Deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan
Pa fathau o gwcis rydym yn eu defnyddio?
Mae nifer o wahanol fathau o gwcis, fodd bynnag, mae ein gwefan yn defnyddio:
Ymarferoldeb – Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn defnyddio’r cwcis hyn fel ein bod yn eich adnabod ar ein gwefan ac yn cofio’r hyn a ddewiswyd gennych yn flaenorol. Gallai’r rhain gynnwys eich dewis iaith a’ch lleoliad. Defnyddir cymysgedd o gwcis parti cyntaf a thrydydd parti.
Hysbysebu – Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn defnyddio’r cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am eich defnydd o’n gwefan, y cynnwys yr edrychoch arno, y dolenni a ddilynwyd gennych a gwybodaeth am eich porwr, eich dyfais, a’ch cyfeiriad IP. Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro weithiau’n rhannu rhai agweddau cyfyngedig ar y data hwn â thrydydd partïon at ddibenion hysbysebu. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data ar-lein a gesglir drwy gwcis gyda’n partneriaid hysbysebu. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn defnyddio gwefan arall, efallai y dangosir hysbysebion i chi yn seiliedig ar eich patrymau pori ar ein gwefan ni.
Sut i reoli cwcis
Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae’r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o’ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithio o ganlyniad i hynny.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 31/7/23
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro, y data rydym yn ei gadw amdanoch, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy’r post:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech gwyno neu os teimlwch nad yw Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro wedi mynd i’r afael â’ch cwyn yn briodol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan https://ico.org.uk/concerns/getting/ neu drwy ffonio 0303 123 1113.