Darllenwch y Telerau ac Amodau sy’n berthnasol i’r taliad cyn derbyn a pharhau gyda’ch taliad.
Wrth gofrestru disgybl ar gyfer gweithgaredd rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau perthnasol ar gyfer y math hwnnw o wasanaeth.
- Mae hysbysiad preifatrwydd GDPR Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn nodi’r math o ddata personol rydym yn ei gasglu gennych er mwyn darparu ein gwasanaethau, yr hyn a wnawn gyda’r data hwn, a ydym yn ei rannu a pha mor hir y byddwn yn ei gadw. Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd.
- Mae Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn gweithredu fel rhan o Gyngor Dinas Caerdydd a gallwch ddarllen polisi GDPR y Cyngor ar ei wefan.
- Os ydych yn nodi cymhwysedd plentyn am Brydau Ysgol am Ddim er mwyn cael bwrsariaeth, cyllid ar gyfer hyfforddiant neu aelodaeth o ganolfan gerddoriaeth, rydych yn cytuno i ni gael mynediad at gronfa ddata briodol yr awdurdod lleol i ddilysu ei gymhwysedd.
Gwersi Cerdd
- Mae gwersi fel arfer yn digwydd yn yr ysgol, gyda chaniatâd yr ysgol. Gwneir eithriadau i hyn yn ôl disgresiwn Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro.
- Mae gwersi yn yr ysgol yn amodol ar gytundeb gan yr ysgol i wersi ddigwydd ar dir yr ysgol ac yn ystod amser ysgol.
- Cynhelir gwersi yn yr ysgol ar yr amser a’r diwrnod o’r wythnos y cytunwyd arnynt rhwng y tiwtor cerdd a’r ysgol.
- Mae taliad am hyfforddiant yn ddyledus cyn dechrau’r gwersi. Gallwch ddewis talu’n llawn am y flwyddyn academaidd, bob tymor neu’n fisol dros 10 mis.
- Gallai disgyblion sy’n derbyn cymorth Prydau Ysgol am Ddim dderbyn cymhorthdal a ddarperir gan yr ysgol, yn amodol ar gadarnhad ysgol. Nodwch, wrth wneud cais, os ydych yn credu bod eich plentyn/plant yn gymwys.
- Pan fyddwch yn cofrestru disgybl ar gyfer hyfforddiant, bydd ei enw yn cael ei roi ar restr aros y tiwtor. Efallai na fydd yn bosibl dechrau hyfforddiant ar unwaith. Os bydd amser y tiwtor yn yr ysgol yn llawn, gallwch ddewis aros i le ddod ar gael.
- Mae talu am hyfforddiant yn prynu 34 o wersi a gynhelir dros y flwyddyn ysgol (rhwng mis Medi a mis Gorffennaf). Mae nifer y gwersi a gyflwynir ym mhob tymor yn amrywio yn amodol ar hyd y tymor a dyddiadau’r ysgol a gwyliau banc.
- Mae hyfforddiant grŵp yn dibynnu ar o leiaf 2 ddisgybl yn cofrestru ac argaeledd disgyblion o safon debyg er mwyn ffurfio grwpiau hyfforddiant. Lle nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd ond yn bosibl cynnig hyfforddiant unigol neu hyfforddiant ar offeryn amgen ar gyfer dechreuwyr.
- Ni ellir ad-dalu gwersi oherwydd nad yw’r disgybl neu’r ysgol ar gael (e.e., absenoldeb y disgybl neu’r ysgol yn cau oherwydd diwrnodau hyfforddiant staff, gweithredu diwydiannol, neu eira, ac ati).
- Lle bo rhybudd o 7 diwrnod fan leiaf o gau’r ysgol wedi cael ei roi ymlaen llaw, bydd y tiwtor yn ceisio trefnu sesiynau dal i fyny lle mae digon o wythnosau yn y tymor.
Canslo hyfforddiant
- I ganslo hyfforddiant, rhaid i chi glicio’r botwm gwneud cais am dynnu’n ôl yn y porth, neu mewn amgylchiadau eithriadol byddwn yn derbyn hysbysiad e-bost trwy AddysgGerddCF@caerdydd.gov.uk
- Ni fyddwn yn derbyn neges a anfonwyd at y tiwtor fel cais swyddogol am ganslo.
- Bydd taliad yn ddyledus am y mis y caiff ei ganslo. Bydd ad-daliadau ond yn daladwy os yw gwersi wedi’u colli oherwydd absenoldeb athrawon.
- Gellir terfynu hyfforddiant ar ddiwedd bob hanner tymor. Mae angen rhoi rhybudd o ganslo gwersi cyn y dyddiadau canlynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25:
- Tymor yr hydref: Tynnu’n ôl erbyn 6 HYDREF i orffen hanner tymor Hydref; Tynnu’n ôl erbyn 8 RHAGFYR i orffen ar ddechrau’r gwyliau Nadolig.
- Tymor y gwanwyn: Tynnu’n ôl erbyn 2 CHWEFROR i orffen hanner tymor Chwefror; Tynnu’n ôl erbyn 30 MAWRTH i orffen ar ddechrau gwyliau’r Pasg.
- Tymor yr haf: Erbyn 4 MAI i orffen yn ystod hanner tymor mis Mai; Erbyn 30 AWST i orffen cyn y flwyddyn academaidd newydd.
- Os caiff ei ganslo ar ôl y dyddiad a nodwyd, bydd ffi yr hanner tymor nesaf yn daladwy.
Ensembles a grwpiau
- Rhaid talu am sesiynau’r tymor ymlaen llaw yn llawn, neu drwy ddewis 10 rhandaliad misol.
- Os yw’ch plentyn yn dechrau ensemble yn hwyr yn y tymor, mae’r taliad llawn yn ddyledus o hyd. Ni ellir ad-dalu taliadau.
- Rhoddir aelodaeth Ensembles Ieuenctid ar y dybiaeth bod aelodaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan, ac mae’r ffioedd yn seiliedig ar y ffi aelodaeth flynyddol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu optio allan o aelodaeth yn ystod un tymor, ac yna dychwelyd heb orfod cael clyweliad arall, a gall olygu ildio eu lle.
- Ni fydd ad-daliadau yn cael eu gwneud ar gyfer sesiynau a gollwyd.
Canslo aelodaeth ensemble
- I ganslo aelodaeth ensemble, rhaid i chi glicio’r botwm i dynnu’n ôl o hyfforddiant yn y porth, neu mewn amgylchiadau eithriadol byddwn yn derbyn hysbysiad e-bost trwy AddysgGerddCF@caerdydd.gov.uk
- Ni fyddwn yn derbyn neges a anfonwyd at y tiwtor fel cais swyddogol am ganslo.
- Gellir terfynu aelodaeth ensemble ar ddiwedd bob tymor llawn. Mae angen rhoi rhybudd o ganslo aelodaeth cyn y dyddiadau canlynol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25:
- Tymor yr hydref: Erbyn 8 RHAGFYR i orffen ar ddechrau’r gwyliau Nadolig.
- Tymor y gwanwyn: Erbyn 30 MAWRTH i orffen ar ddechrau gwyliau’r Pasg.
- Tymor yr haf: Erbyn 30 AWST i orffen ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
- Os rhoddir hysbysiad canslo ar ôl y dyddiad a nodwyd ar gyfer y tymor hwnnw, bydd ffi’r tymor llawn nesaf yn daladwy.
Cyrsiau Preswyl, Digwyddiadau, Tripiau a Theithiau
- Ni ellir ad-dalu taliadau unwaith y bydd y lle wedi’i gadarnhau.
- Ar gyfer cyrsiau a theithiau lle cynigir cynllun rhandaliadau, unwaith y bydd y myfyriwr wedi’i gofrestru a thalu’r rhandaliad cyntaf, mae’r holl randaliadau dilynol yn daladwy ar y dyddiadau dyledus fel a nodwyd yn y wybodaeth gofrestru.
- Argymhellir bod yswiriant canslo addas ar waith rhag ofn na fydd y disgybl yn gallu teithio oherwydd salwch, profedigaeth ac ati.
- Os na thelir y balans llawn erbyn y dyddiadau cau a bennwyd:
- Bydd eich plentyn yn colli ei le ar y cwrs ac ni roddir ad-daliad.
- Bydd eich tocyn ar gyfer y digwyddiad, lle bo’n berthnasol, yn annilys ac ni roddir ad-daliad.
- Byddwch yn colli’ch lle ar y drafnidiaeth ac ni roddir ad-daliad.
- Rhaid i unrhyw randaliadau heb eu talu gael eu talu’n llawn.
- Ni ellir ad-dalu blaendaliadau.
- Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’ch taliad e.e. llenwi ffurflenni meddygol a chyflwyno gwybodaeth pasbort. Os na chaiff y wybodaeth hon ei chyflwyno’n brydlon, gall arwain at ganslo eich lle ar y cwrs / digwyddiad / trafnidiaeth. Ni roddir ad-daliadau ar gyfer canslo yn seiliedig ar beidio â chyflwyno gwybodaeth hanfodol.
Ffioedd Arholiad
- Gwneir taliadau a cheisiadau i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro ar ran y cyrff arholi (ABRSM, Trinity College London, RockSchool).
- Nid yw Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro yn gyfrifol am unrhyw ad-daliadau ar gyfer ffioedd arholi.
- Gall apwyntiadau arholi fod ar unrhyw adeg ar unrhyw un o’r dyddiadau dros dro a hysbysebwyd.
- Gyda sesiynau arholi sydd wedi’u gordanysgrifio, gall apwyntiadau arholi fod ar ddyddiad na hysbysebwyd yn flaenorol.
- Mae ad-daliadau rhannol neu gredydau ail-fynediad ar gael yn ôl disgresiwn y bwrdd arholi priodol yn unig os cyflwynir nodyn meddygol ar gyfer arholiad a fethwyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes unrhyw amgylchiadau eraill a fydd yn arwain at ad-daliad. Mae unrhyw ad-daliad / ad-daliad rhannol yn ôl disgresiwn y bwrdd arholi.
Benthyciad Offeryn
- Mae pob disgybl sy’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr ALl a/neu sy’n derbyn hyfforddiant yn gymwys i wneud cais am offeryn ar fenthyg, yn amodol ar argaeledd.
- Gall benthyciad offeryn fod yn destun tâl tymhorol.
- Caiff offerynnau eu benthyca i ddisgyblion am hyd at flwyddyn yn y lle cyntaf. Mae’r benthyciad offeryn yn amodol ar y disgybl yn gwneud cynnydd boddhaol yn ei astudiaethau cerdd a chymryd rhan lawn mewn gweithgareddau cerdd a drefnir gan yr ysgol a chan Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro.
- Os yw’r disgybl yn rhoi’r gorau i wersi, rhaid dychwelyd yr offeryn i Diwtor Arbenigol Cerdd y disgybl neu i Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro ar unwaith.
- Cyfrifoldeb y benthyciwr yw cynnal yr offeryn mewn cyflwr gweithio da trwy newid llinynnau, cyrs, sbringiau falf a rhannau eraill o offeryn y mae angen eu newid, a thrwy lanhau a chynnal a chadw arferol.
- Mae’r benthyciwr yn gyfrifol am gadw’r offeryn yn ddiogel ac mae’n atebol pe bai’r offeryn yn mynd ar goll, neu am unrhyw ddifrod a achosir i’r offeryn, y cas neu ategolion, ac eithrio traul teg. Nid yw’r offeryn wedi’i yswirio a chynghorir y benthyciwr i drefnu yswiriant ar gyfer pe bai’r offeryn yn mynd ar goll, neu unrhyw ddifrod iddo.
- Mae Addysg Cerddoriaeth Caerdydd a’r Fro yn cadw’r hawl i gymryd offeryn ar fenthyg yn ôl ar unrhyw adeg.