Mae Ensemble Telynau Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro wedi bod yn rhedeg ers dros 30 mlynedd. Izzy Hill yw’r Cyfarwyddwr Cerdd presennol.

Daw’r plant o Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yng Nghaerdydd a Bro Morganwg ac maent rhwng 7 a 18 oed.

Y gofynion ar gyfer ymuno â’r Ensemble yw o leiaf safon Gradd 1 neu uwch. Mae telynau lifer a pedal yn dderbyniol ar gyfer yr Ensemble.

Mae’r ensemble telynau yn ymarfer bob pythefnos ar ddydd Sadwrn yn ystod y tymor yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, o 2 i 4pm.

Mae’r ensemble yn gyfle i delynorion ddod at ei gilydd a chael hwyl yn chwarae ar y llwyfan!

TymorDyddiad DechrauDyddiad Gorffen
Tymor 1 – Yr Hydref26 Medi 202621 Tachwedd 2026
Tymor 2 – Yr Gwanwyn9 Ionawr 20276 Mawrth 2027
Tymor 3 – Yr Haf10 Ebrill 202726 Mehefin 2027

Bywgraffiad yr Arweinydd

Izzy Hill

Yn wreiddiol o Dorfaen, De Cymru, graddiodd Izzy gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2026. Yn ystod ei hastudiaethau, dyfarnwyd Gwobr A.B. Daily iddi am Berfformiad Israddedig Rhagorol.

Mae Izzy wedi perfformio mewn lleoliadau ledled Prydain, gan gynnwys Neuadd Frenhinol Albert, ac yn ddiweddar dyfarnwyd y Drydedd Wobr iddi yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru 2025 Pendine.

Mae ganddi ddiplomâu perfformio mewn Piano a Thelyn, yn ogystal â diplomâu mewn Damcaniaeth Cerddoriaeth ac Addysgu Cerddoriaeth. Ym mis Medi 2026, bydd Izzy yn dechrau gradd Meistr mewn Addysg a Pherfformio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae Izzy yn angerddol am hyrwyddo diwylliant Cymru trwy ei chwarae a’i pherfformio ar y delyn.