Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Addysg Gerdd Caerdydd a’r Fro.

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost: cfmusiceducation@cardiff.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Problem hygyrcheddMeini prawf WCAGNifer o broblemau
Ychwanegwch gwmpas i benawdau’r tablWCAG 2.0 A 1.3.141
Ychwanegwch benawdau at dablauWCAG 2.0 A 1.3.127
Nodi penawdau ar gyfer pob PDFWCAG 2.0 A 1.3.126
Sicrhewch fod teitl i bob ffeil PDFWCAG 2.0 A 2.4.224
Sicrhewch fod ffeiliau PDF yn nodi iaith ddiofynWCAG 2.0 A 3.1.123
Tagiwch yr holl PDFsWCAG 2.0 A 1.3.123
Osgowch ddefnyddio’r un testun dolen ar gyfer cyrchfannau gwahanolWCAG 2.0 A 2.4.419
Anelwch at ddefnyddio rheolaethau rhyngweithiol mawrWCAG 2.1 AAA 2.5.513
Ysgrifennwch restrau neu grwpiau o ddolenni yn semantigWCAG 2.0 A 1.3.19
Anelwch at osod cyferbyniad uchel iawn ar y testun (AAA)WCAG 2.0 AAA 1.4.65
Gwnewch yn siŵr nad yw’r cynnwys yn rhy anodd ei ddeallWCAG 2.0 AAA 3.1.55
Gwnewch yn siŵr bod penawdau’n cynnwys testunWCAG 2.0 A 1.3.13
Sicrhewch fod pob tudalen yn cynnwys pennawd lefel uchaf WCAG 2.0 A 1.3.13
Ychwanegwch allwedd ar gyfer pob set maesWCAG 2.0 A 1.3.12
Sicrhewch fod dolenni’n egluro eu bod yn agor mewn tab newyddWCAG 2.0 AAA 3.2.52
Gwnewch yn siŵr bod dolenni’n egluro eu pwrpasWCAG 2.0 A 2.4.41
Osgowch gysylltu ag angorau nad ydynt yn bodoliWCAG 2.0 A 2.4.11
Gwnewch yn siŵr bod rheolaethau yn cyferbynnu’n ddigonol â’u hamgylcheddWCAG 2.1 AA 1.4.111

Dogfennau

Nid yw rhai o’n ffeiliau PDF ar gael ar-lein.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 02/02/2026.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 02/02/2026.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 02/02/2026 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 02/02/2026.