Mae Pres Symffonig yn ensemble siambr ar gyfer chwaraewyr o safon gradd 6 ac uwch sy’n ymarfer yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd bob nos Wener.
Mae Pres Symffonig yn perfformio cerddoriaeth o dros bum canrif, a gall ei raglenni gynnwys unrhyw beth o bolyffoni’r dadeni, campweithiau baróc a chlasuron bandiau pres hyd at safonau jazz a sgoriau cyfoes blaengar. Mae Pres Symffonig wedi perfformio nifer o weithiau gan gyfansoddwyr blaenllaw o Gymru am y tro cyntaf a bydd yn rhoi’r perfformiad cyntaf o ddarn newydd gan Iain James Veitch yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth ym mis Mehefin 2025.
Mae amserlen gyffrous Pres Symffonig yn cynnwys ymrwymiadau ledled y sir a thu hwnt. Mae ei gyrchfannau teithiau niferus wedi cynnwys Llundain, Birmingham, Manceinion, Efrog, Rhydychen, yr Alban a Norwy. Mae rhai ymrwymiadau yn 2025 yn cynnwys ymddangosiadau yn y Senedd, yng Nghasnewydd, Salisbury ac yn Eglwys Gadeiriol Portsmouth.

Dyddiad | Lleoliad |
Sad 29 Mawrth, 7pm | Cyngerdd gyda Chôr Cyngerdd Cymreig (Eglwys Sant Ioan, Casnewydd) |
Sad 24 Mai, 11am | Gwasanaeth Coffa Cymdeithas y Llynges Fasnachol (Senedd, Bae Caerdydd) |
Sul 22 Mehefin, 3pm | Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth (Penarth) |
Dydd Mercher 2 Gorffennaf, 6.30pm | Cyngerdd Gŵyl yr Haf (Memo’r Barri) |