Mae Ensemble Llinynnol Canolradd yn grŵp ar gyfer chwaraewyr ffidil, fiola, sielo a bas dwbl o flwyddyn 6 i fyny sydd yn radd 2 -5 ar eu hofferyn. Mae’r grŵp yn ymarfer yn Ysgol Uwchradd Caerdydd foreau Sadwrn o 10yb i 12yh. Drwy gydol y flwyddyn academaidd, rydym yn cynnal 3 chyngerdd mewn lleoliadau amrywiol sy’n aml yn cynnwys ein cyd-ensemblau.
Nod Ensemble Llinynnol Canolradd yw datblygu sgiliau perfformio ein haelodau ac ehangu eu dealltwriaeth o theori cerddoriaeth mewn amgylchedd hwyliog a deniadol, gan annog yr aelodau i gynnig eu hawgrymiadau repertoire cerddorol eu hunain.
| Tymor | Dyddiad Dechrau | Dyddiad Gorffen |
| Tymor 1 – Yr Hydref | 12 Medi 2026 | 21 Tachwedd 2026 |
| Tymor 2 – Yr Gwanwyn | 9 Ionawr 2027 | 13 Mawrth 2027 |
| Tymor 3 – Yr Haf | 10 Ebrill 2027 | 3 Gorffennaf 2027 |

Bywgraffiad yr Arweinydd

Mae James Rhys Grindle yn aml-offerynnwr a’i astudiaeth gyntaf yw fiola. Mae ganddo BMus o Brifysgol Caerdydd a Dip Ôl o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ôl astudio gyda chyn brif fiola Opera Cenedlaethol Cymru Philip Heyman. Mae’n gyfansoddwr ac arweinydd medrus sydd wedi perfformio a dysgu mewn amrywiaeth o amgylcheddau cerddorol ers bron i ugain mlynedd.


