Ymunwch â’r ensemble newydd cyffrous Meistri Jazz i archwilio byd jazz, ffync a byrfyfyrio.
Bydd Meistri Jazz yn caniatáu ichi ddatblygu eich sain unigryw eich hun, dysgu technegau newydd a rhannu syniadau newydd gyda ffrindiau. Dysgwch am hanes cyfoethog jazz a cherddoriaeth fyrfyfyr o ddiwylliannau eraill ledled y byd.
Trwy sesiynau jam, gweithdai creadigol a dosbarthiadau theori ymarferol, darganfyddwch bosibiliadau diddiwedd eich offeryn gyda’r Meistri Jazz.
Mae Meistri Jazz yn ymarfer ar ddydd Sadwrn rhwng 10am a 12pm yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.

SESIWN | PRISIAD |
Sesiwn 2 awr yr wythnos | £71.50 y tymor |
Bydd pob myfyriwr yn derbyn 31 sesiwn y flwyddyn academaidd, ynghyd â chyngherddau