Ffurfiwyd ein Cerddorfa Ysgolion Uwchradd ym 1975 a dyma’r ensemble oedran ysgol uwchradd mwyaf yn y gwasanaeth cerdd.

Mae’r gerddorfa wedi teithio UDA , Malta a’r rhan fwyaf o wledydd eraill Gorllewin Ewrop. Mae’n perfformio mewn lleoliadau mawreddog ar draws Caerdydd ac mae hefyd wedi perfformio mewn lleoliadau Music For Youth, fel y Royal Albert Hall.

Mae’r gerddorfa’n chwarae ystod eang o repertoire, o ffilmiau mawr Hollywood a sgorau gêm gyfrifiadurol i goncerti a symffonïau. Bob blwyddyn, mae’r gerddorfa yn dewis cyfansoddiad TGAU neu Lefel A disgybl i’w berfformio mewn cyngerdd.

Ar hyn o bryd mae gan y gerddorfa bron i 100 o aelodau ac mae’n ymarfer bob bore Sadwrn yn ystod y tymor yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Yn fwy na dim, mae’r gerddorfa yn ffynnu ar ei phoblogrwydd am fod yn heriol ond yn hwyl!

RhifCysegrannauDyddAmserLleoliadDyddiad
1Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd20 Medi
2Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd27 Medi
3Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd4 Hydref
4Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd11 Hydref
5Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd18 Hydref
6Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd25 Hydref
HANNER TYMOR (27 Hydref – 31 Hydref 2025)
SYLWER: DIM YMARFER HSO Dydd Sadwrn 8 Tachwedd
7Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 2:30yp (ymarfer estynedig)Ysgol Uwchradd Caerdydd15 Tachwedd
8Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd22 Tachwedd
9Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd29 Tachwedd
10Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd6 Rhagfyr
Arddangosfa Nadolig (Dydd Llun 8 Rhagfyr 2025) – Ysgol Uwchradd Caerdydd
GWYLIAU NADOLIG (22 Rhagfyr 2025 – 02 Ionawr 2026)
11Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd10 Ionawr
12Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd17 Ionawr
13Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd24 Ionawr
14Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd31 Ionawr
15Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd7 Chwefror
16Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd14 Chwefror
17Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd28 Chwefror
18Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd7 Mawrth
19Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd14 Mawrth
20Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd21 Mawrth
GWYLIAU PASG (30 Mawrth – 10 Ebrill 2026)
21Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd18 Ebrill
22Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd25 Ebrill
23Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd2 Mai
24Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd9 Mai
25Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd16 Mai
26Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd23 Mai
HANNER TYMOR (25 Mai – 29 Mai 2026)
27Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd6 Mehefin
28Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd13 Mehefin
29Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd20 Mehefin
30Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd27 Mehefin
31Cerddorfa Ysgolion UwchraddDydd Sadwrn10yb – 12ypYsgol Uwchradd Caerdydd4 Gorffennaf
Dyddiad a Lleoliad y Cyngerdd i’w gadarnhau

Bywgraffiad yr Arweinydd

Charles Maynard yw arweinydd Cerddorfa Ysgolion Uwchradd. Yn wreiddiol o Fanceinion, dyfarnwyd ysgoloriaeth iddo yn y chweched dosbarth i astudio trombone yn y Royal Northern College of Music, a ddilynwyd gan gwrs graddedig mewn cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yna blwyddyn ôl-raddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Astudiodd Charles arwain gyda Malcolm Binney a Syr Simon Rattle yn ogystal â chyfansoddi ôl-raddedig gyda Dr Paul Patterson a Syr Michael Tippett.

Mae Charles wedi gweithio i’r gwasanaeth cerdd ers 1992 ac mae bellach yn Bennaeth Pres ac yn diwtor arweiniol creadigol. Mae wedi bod yn arweinydd Cerddorfa Ysgolion Uwchradd er 1994.